Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2022
Amser:
09.01 -
09.38
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Emma Alexander, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Cydnabu’r Trefnydd y pryderon sydd wedi’u mynegi am y nifer o bwyntiau adrodd a godwyd ar y ddwy gyfres o Reoliadau. Byddai'n cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad cyn y Cyfarfod Llawn i drafod y mater hwn ymhellach a bydd yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor Busnes yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd bod 90 munud wedi'i ddyrannu i’r datganiad heddiw ar y gyllideb ddrafft a bydd ar ffurf dadl, yn unol â’r arfer ers 2017. Ni fydd pleidlais.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Canlyniadau'r Arolwg (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth (30 munud)
Dydd Mawrth 17 Ionawr 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Blaenoriaethau Economaidd a Chysylltiadau Llywodraeth y DU (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (30 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (45 munud)
· Dadl Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:
Dydd Mercher 11 Ionawr 2023
Dydd Mercher 25 Ionawr 2023
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Bwyd (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Bwyd (Cymru)
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:
4.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch memoranda cydsyniad deddfwriaethol:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn nodi'r pryderon a godwyd ynghylch nifer y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a'r effaith ar waith pwyllgorau.
5 Diwygio'r Senedd
5.1 Costau a Rhagdybiaethau ar Ddiwygio'r Senedd: Gwybodaeth ddiwygiedig
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan Gomisiwn y Senedd i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Yn dilyn trafodaeth ynghylch y rhagdybiaethau o ran yr ystod ddisgwyliedig o bwyllgorau ychwanegol sy'n debygol o gael eu sefydlu gan Senedd y dyfodol a nifer yr wythnosau eistedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi'r rhagdybiaethau o ran busnes y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ystyried papur yn nodi’r amserlenni lefel uchel ar gyfer ei waith ei hun yn ymwneud â Diwygio'r Senedd dros weddill tymor y Senedd hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Unrhyw Fater Arall
Dadleuon 30 munud
Cododd y Llywydd y profiad diweddar o grwpiau'r gwrthbleidiau’n cyflwyno dau gynnig i'w trafod yn ystod amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn, a all gyfyngu ar nifer a hyd cyfraniadau gan Aelodau ar bynciau o bwys. Nododd y Llywydd y bydd cais i'r Pwyllgor Busnes ystyried papur yn y Flwyddyn Newydd ynghylch yr amseru ar gyfer dadleuon 30 munud, yng nghyd-destun amserlennu busnes yn ehangach.